Amdanom Ni ...

Moduron Menai Motors
Mae Moduron Menai’n gwmni gwerthu ceir o safon yng Nghaernarfon. Ein nod ydy darparu amrywiaeth o geir a faniau o’r safon uchaf er mwyn cyflenwi anghenion ein cwsmeriaid.Gallwn gael gafael ar bob math o geir a faniau – rhai ail law a rhai newydd sbon. Rydym yn cynnig prisiau cystadleuol ac yn cynnig gwasanaeth ôl brynu penigamp.Dewch draw i gael profi croeso cynnes Moduron Menai.
Dilynwch ni ar Facebook ac Instagram er mwyn gweld y cynnigion diweddaraf.
Oriau Agor
Llun – Gwener: 10am – 6pm
Sadwrn : 10.30am – 4.30pm
Gall ein horiau agor amrywio, cysylltwch i wneud yn siŵr ein bod o gwmpas.
Gwasanaethau eraill sydd ar gael…
Cynlluniau Cyllido…
Rydym yn gallu cynnig cynlluniau cyllido addas ar eich cyfer ac yn defnyddio amrywiol gwmniau o safon.
Eisiau Gwerthu’ch Car?
Ystyried gwerthu eich car? Pam ddim cysylltu â ni? Rydym bob amser yn chwilio am geir o safon o dan 5 oed i’w prynu. Gallwn gynnig syniad o werth eich car neu brisiad llawn.
