Mae Moduron Menai yn gwmni gwerthu ceir sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon, Gwynedd. Yma fe gewch amrywiaeth eang o geir a faniau ail law o'r safon uchaf ac rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau fod pob cwsmer yn cael y gofal gorau. Manteisiwch ar ein harbenigedd a'r gwasanaeth cyflawn allwn ei gynnig cyn ac ar ôl prynu car. Os ydych yn bwriadu newid eich car cymerwch olwg ar ein rhestr stoc er mwyn gweld ein prisiau cystadleuol. Gobeithio y cewch eich plesio ond os na welwch unrhyw beth at eich dant cysylltwch â ni er mwyn gwneud ymholiadau pellach.
Diolch am ymweld â'r safwe ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan yn Moduron Menai.
|